Isaiah 6

Eseia'n gweld yr Arglwydd yn y deml

1Yn y flwyddyn y buodd y brenin Wseia farw,
6:1 y flwyddyn y buodd y brenin Wseia farw 742 CC mae'n debyg.
gwelais y Meistr yn eistedd ar orsedd uchel, ac ymylon ei wisg yn llenwi'r deml. b
2Roedd seraffiaid
6:2 seraffiaid Ystyr seraff ydy "un sy'n llosgi"
yn hofran uwch ei ben, ac roedd gan bob un ohonyn nhw chwe adain: dwy i guddio'i wyneb, dwy i guddio'i goesau, a dwy i hedfan.
3Ac roedd un yn galw ar y llall, ac yn dweud,

“Sanctaidd! Sanctaidd! Sanctaidd!
yr Arglwydd holl-bwerus!
Mae ei ysblander yn llenwi'r ddaear gyfan!”

4Roedd sylfeini ffrâm y drws yn ysgwyd wrth iddyn nhw alw, a'r neuadd yn llenwi gyda mwg.

5Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i'n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda'm llygaid fy hun – yr Arglwydd holl-bwerus.”

6Yna dyma un o'r seraffiaid yn hedfan ata i, ac roedd ganddo farworyn poeth wedi ei gymryd oddi ar yr allor mewn gefel. 7Cyffyrddodd fy ngwefusau gydag e, a dweud, “Edrych, mae hwn wedi cyffwrdd dy wefusau di, felly mae dy euogrwydd di wedi mynd, a talwyd iawn am dy bechod.”

8Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i'n mynd i'w anfon? Pwy sy'n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi'n dweud, “Dyma fi; anfon fi.” 9Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma:

‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall;
Edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’
10Gwna nhw'n ystyfnig,
tro eu clustiau'n fyddar,
a chau eu llygaid –
rhag iddyn nhw weld â'u llygaid,
clywed â'u clustiau,
deall go iawn,
a throi a chael eu hiacháu.”

11Dyma fi'n gofyn, “Am faint o amser, fy Arglwydd?” A dyma fe'n ateb:

“Nes bydd trefi wedi eu dinistrio
a neb yn byw ynddyn nhw;
tai heb bobl ynddyn nhw,
a'r tir wedi ei ddifetha, a'i adael yn ddiffaith.”
12Bydd yr Arglwydd yn gyrru'r boblogaeth i ffwrdd –
a bydd llawer iawn o ardaloedd gwag drwy'r wlad.
13Ond os bydd un rhan o ddeg ar ôl,
fydd hwnnw eto'n cael ei losgi?
“Bydd fel coeden anferth neu dderwen wedi ei thorri i lawr,
a dim ond boncyff ar ôl.
Ond bydd y boncyff yn ddechrau newydd,
fel had sanctaidd.”
Copyright information for CYM